Sen Segur - un o grwpiau Taith Nyth 2012
Bydd Taith Nyth yn agor gyda gig yn Camden, Llundain heno cyn ymweld â phedwar lleoliad arall dros y dyddiau nesaf.
Trefnir y daith 5 noson gan y criw sydd wedi bod yn trefnu gigs rheolaidd ‘Nyth’ yn y Gwdihŵ yng Nghaerdydd.
Y nod yn ôl un o’r trefnwyr fu’n siarad â Golwg360 ydy i grwpiau Cymraeg ‘gyflwyno eu cerddoriaeth i gynulleidfa ehangach’.
“Ar un llaw nod Taith Nyth yw rhoi’r cyfle i fandiau ifanc o Gymru gael chwarae mewn lleoliadau newydd dros glawdd Offa” meddai un o’r trefnwyr, Gwyn Eiddior, wrth Golwg360.
“Ar y llaw arall mae Nyth am ddod a cherddoriaeth wych y bandiau yma yn ôl i Gymru i chwarae mewn trefi prifysgol lle mae cyfleoedd am gigs cerddorol byw Cymraeg ar y cyfan yn brin iawn.”
Diffyg Aber a Bangor
Yn ôl trefnwyr taith Nyth, mae’r daith yn targedu trefi prifysgol Aberystwyth a Bangor yn benodol o ganlyniad i gwynion am ddiffyg digwyddiadau cerddorol byw Cymraeg yn y llefydd hynny.
“Mae llawer o sôn fod y ‘sin fyw yn farwaidd ym Mangor ac Aberystwyth’, felly mae’r ddwy gig yn y trefi hynny yn rhyw fath o arbrawf, ac efallai’n gyfle i’r myfyrwyr brofi neu wrthbrofi’r gosodiad!”
Mae criw Nyth wedi bod yn trefnu gigs rheolaidd yng Nghaerdydd ers rhai blynyddoedd bellach, a hefyd wedi bod yn cyfrannu at arlwy rhai o wyliau’r haf.
Roedd sôn am daith ‘Ewropeaidd’ gan y criw llynedd, ond hon fydd y daith gyntaf iddynt hyrwyddo sy’n pontio dwy ochr Clawdd Offa.
Bandiau ifanc i serennu
Yn ôl Gwyn Eiddior, maent wedi dewis bandiau ifanc, talentog sydd “wrthi’n ennill eu plwyf yng Nghymru” yn fwriadol ar gyfer y daith er mwyn mynd â’u cerddoriaeth at gynulleidfa ehangach.
“Roedden ni’n teimlo fod gan yr artistiaid a’r bandiau mwy profiadol sefydledig, yr ‘hedleinars’ y cyfleoedd a’r gallu i fynd a’r deithiau a chwarae mewn llefydd megis Llundain a Manceinion yn barod” meddai wrth Golwg360.
“Roedden ni’n meddwl ei bod yn bwysicach rhoi cyfle i fandiau ifanc gwych fel Sen Segur, Hud a Violas gael serennu’r un modd.”
“Dyma fandiau rydan ni’n teimlo sy’n creu cerddoriaeth sy’n ddigon safonol i’w gyflwyno i unrhyw un, unrhyw le ac sy’n haeddu’r cyfle a ‘chydig o gymorth gan Nyth i wneud hyn.”
Mae’r daith yn dechrau yn The Wheelbarrow yn Camden, Llundain heno ac mae criw Nyth yn gofyn i bobol gefnogi’r gigs i gyd.
“Plis plîs dewch i gefnogi ni, ma’r bandiau ymhlith y gorau yng Nghymru, fe fydd y nosweithiau’n rhai anhygoel … a ma pris disel yn uffernol o ddrud!”
Dyddiadau llawn y daith
Mercher 3 Hydref – The Weelbarrow, Llundain : Hud, Violas, Sen Segur
Iau 4 Hydref – Kraak Gallery, Northern Quarter, Manceinion : The Tapestry, Sen Segur, Plant Duw
Gwener 5 Hydref – Rascals, Bangor Uchaf : Plant Duw, Sen Segur, Candelas, Sŵnami
Sadwrn 6 Hydref – Clwb Nyth, Stryd Eastgate, Aberystwyth : Sen Segur, Plant Duw, Sŵnami, Candelas
Sul 7 Hydref – Clwb Ifor Bach, Caerdydd : Aled Rheon, Tomos Lewis, HMS Morris, Sen