Jimmy Savile
Mae honiad o drais sydd wedi cael ei wneud yn erbyn Syr Jimmy Savile wedi cael ei gyfeirio at Scotland Yard.

Cafodd yr honiad ei wneud i Heddlu Surrey yn wreiddiol ac mae’r Met bellach yn ystyried a fydd yn cynnal ymchwiliad.

Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Surrey bod y ddynes “wedi gwneud honiad hanesyddol o drais” ddoe, ond oherwydd bod y drosedd honedig wedi digwydd yn Llundain  mae’r mater wedi cael ei gyfeirio at yr Heddlu Metropolitan.

Datgelwyd heddiw bod yr heddlu yn Jersey a Surrey wedi ymchwilio i honiadau yn erbyn y cyflwynydd teledu yn ymwneud a cham-drin mewn dau o gartrefi plant yn y 70au, ond eu bod wedi penderfynu nad oedd digon o dystiolaeth.

Heddiw cyhoeddodd y BBC eu bod yn barod i gydweithio gydag ymchwiliadau’r heddlu i honiadau o gam-drin ac wedi gofyn i uned ymchwiliadau’r gorfforaeth i gysylltu â’r heddluoedd sy’n delio gyda honiadau o’r fath. Mae’n dilyn cyfres o honiadau bod y cyflwynydd wedi cam-drin merched dan 16 oed ar safle’r BBC yn ystod y 60au a’r 70au.

Bu farw Jimmy Savile ym mis Hydref y llynedd.