Cyhoeddwyd heddiw fod 330 o gyfansoddwyr a chyhoeddwyr Cymreig wedi datgan eu bod am dynnu eu hawliau darlledu cerddoriaeth o’r corff Prydeinig y PRS.

Bydd yr hawliau’n cael eu haseinio’n lle i asiantaeth freindaliadau newydd sydd wedi’i sefydlu gan Gynghrair Cyhoeddwyr a Chyfansoddwyr Cerddoriaeth Cymru o’r enw EOS.

Cyflwynwyd 330 o lythyrau gan rai o enwau amlycaf cerddoriaeth Cymru i’r PRS nos Sul, gan ofyn iddynt ail aseinio eu hawliau darlledu i’r asiantaeth newydd.

Bydd EOS hefyd yn cynrychioli tua 2000 o gyfansoddwyr sydd ddim yn aelodau o’r PRS, ond sydd wedi cael eu cynrychioli gan y cwmnïau cyhoeddi.

Newidiadau polisi

Mae’r ddadl ymysg cyhoeddwyr cerddoriaeth Cymraeg a’r PRS wedi bod yn rhygnu ymlaen ers i’r PRS newid eu polisi dosbarthu ym 2007 ar gyfer perfformiadau cyhoeddus, ac i ddarlledu yn 2008.

Mae cyfansoddwyr a chyhoeddwyr wedi gweld gostyngiad o hyd at 85% yn eu hincwm breindaliadau o ganlyniad i’r newid polisi, ac yn ôl nifer o gerddorion a chyhoeddwyr, mae hyn wedi cael effaith ddinistriol ar y diwydiant cerddoriaeth yng Nghymru.

‘Hanesyddol’

Bwriad gwreiddiol Y Gynghrair oedd sefydlu cymdeithas drwyddedu a chasglu lawn.

Ond, trwyddedu hawliau darlledu yn unig fydd yr asiantaeth newydd, felly bydd aelodaeth PRS y cyfansoddwyr yn parhau, sy’n gyfaddawd yn ôl y Gynghrair.

Yn ôl Y Gynghrair, mae’r weithred yr wythnos hon yn un hanesyddol.

“Dyma’r tro cyntaf i weithred dorfol fel hyn ddigwydd ym Mhrydain, er bod rhai enghreifftiau o hawliau wedi eu trosglwyddo yn yr Almaen” meddai llefarydd ar ran y Gynghrair.

“Ond mae hyn oll yn dangos beth sy’n bosib gydag undod, a’n bod yn barod fel grŵp o gyfansoddwyr a chyhoeddwyr i sicrhau breindaliadau teg am ein cerddoriaeth.”

Ni fydd taliadau ‘blanced’ blynyddol y darlledwyr i’r PRS yn cynnwys yr hawl i ddarlledu cyfansoddwyr yr EOS o 1 Ionawr 2013 – yr EOS fydd yn trwyddedu’r hawliau hyn sy’n cwmpasu tua 30,000 o ganeuon.