Daeth cadarnhad heddiw mai ar safle Parc Arfordirol y Mileniwm y bydd Eisteddfod Genedlaethol 2014 yn cael ei chynnal.

Hwn fydd ymweliad cyntaf yr Eisteddfod Genedlaethol â’r dref ers 2000.

Bydd yr Eisteddfod hefyd yn defnyddio theatr newydd Y Ffwrnes yn ystod yr wythnos.

Fe fydd cyfle i glywed rhagor o’r cynlluniau ar gyfer yr wythnos mewn cyfarfod cyhoeddus yn Ysgol Gyfun Y Strade ar 8 Tachwedd am 7 o’r gloch.

Wrth gyhoeddi bod yr Eisteddfod Genedlaethol yn dod i Lanelli, dywedodd arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin, Kevin Madge: “Rydym yn falch iawn o gyhoeddi mai Sir Gaerfyddin fydd yn croesawu’r Eisteddfod ymhen dwy flynedd heddiw.

“Mae ymweliad yr Eisteddfod yn sicr o roi hwb mawr i’r sir gyfan, nid yn unig yn ystod yr wythnos ei hun ond yn y cyfnod hyd at yr ymweliad ymhen dwy flynedd. Mae’n gyfnod hynod gyffrous yn Llanelli, gyda datblygiadau Y Ffwrnes a Phorth y Dwyrain yn agor yn fuan.

“Bydd ymweliad yr Eisteddfod yn goron ar y cyfan.”

‘Ardal hynod gefnogol’

“Roedd Eisteddfod Llanelli 2000 yn brifwyl i’w chofio, a’r gobaith yw y bydd yr Eisteddfod yn 2014 hefyd yn cael croeso brwd gan bawb yn Sir Gaerfyrddin.

“Rydym ni fel cyngor yn edrych ymlaen at gydweithio gyda’r Eisteddfod – yn swyddogion a gwirfoddolwyr lleol – dros y misoedd nesaf er mwyn trefnu Eisteddfod heb ei hail ym mis Awst 2014, pan fyddwn yn croesawu ymwelwyr o bob cwr o Gymru a thu hwnt i’r ardal.”

Dywedodd Prif Weithredwr yr Eisteddfod, Elfed Roberts: “Mae’n ardal sydd wedi bod yn hynod gefnogol i’r Eisteddfod dros y blynyddoedd, ac ardal sydd â chysylltiad cryf a phwysig gyda’r Eisteddfod ers cenedlaethau.

“Rydym yn edrych ymlaen at gychwyn ar y gwaith o baratoi ar gyfer yr Eisteddfod yn lleol, a bydd y gwaith hwn yn dechrau gyda chyfarfod cyhoeddus yn yr ardal ar 8 Tachwedd.

“Yn dilyn y cyfarfod hwn byddwn yn mynd ati i ethol swyddogion a bydd y pwyllgorau lleol yn cychwyn ar eu gwaith. Gobeithio y bydd y pwyllgorau i gyd yn weithredol ymhell cyn y Nadolig.”