Mae’r Gweinidog Addysg a Sgiliau, Leighton Andrews wedi cyhoeddi ei fwriad i sefydlu tasglu er mwyn penderfynu ar ddyfodol yr Eisteddfod Genedlaethol.
Roedd Leighton Andrews wedi cyhoeddi ym mis Awst y gallai’r Eisteddfod gael rhagor o arian petai nhw’n cyflwyno newidiadau.
Prif ffocws trafodaeth y grŵp fydd a ddylai’r Eisteddfod Genedlaethol foderneiddio.
Ni fydd y grŵp yn trafod newid rheol Gymraeg yr Eisteddfod.
Bydd y tasglu yn gyfuniad o bobl amlwg ym maes diwylliant, o dan gadeiryddiaeth y darlledwr Roy Noble.
Bydd cyn-Lywydd y Cynulliad, yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas, y ddarlledwraig Bethan Elfyn a’r actor Daniel Evans hefyd yn rhan o’r grŵp.
Bydd symud am yn ail rhwng y De a’r Gogledd yn cael ei drafod, yn ogystal â sefydlu cartref sefydlog i’r Brifwyl bob dwy flynedd.
Bydd hefyd yn ystyried manteision ac anfanteision y model presennol a sut i ddenu rhagor o ymwelwyr yn ystod yr wythnos gan gynnwys denu mwy o bobl ddi-gymraeg.
Mae disgwyl i’r grŵp adrodd yn ôl i Leighton Andrews ym mis Medi 2013.
‘Croesawu’
Dywedodd Prif Weithredwr yr Eisteddfod Genedlaethol Elfed Roberts: “Mae’r Eisteddfod yn croesawu’r ffaith fod y Gweinidog wedi sefydlu’r grwp ac yn edrych ymlaen at drafodaeth a fydd yn sicrhau bod gan bawb well dealltwriaeth o’r Eisteddfod.
“Gobeithio y bydd y Gweinidog yn gallu defnyddio’r adroddiad i sicrhau dyfodol llewyrchus i’r Eisteddfod. Dydy’r cwestiynau ddim yn ein synnu ni, a does yna’r un ateb hawdd. Mae’n amlwg bod sawl ateb posib i’r cwestiynau. Rydym yn edrych ymlaen at y ddeialog.
“Mae’r grwp yn gyfuniad o 12 o bobl o gefndiroedd gwahanol, a gobeithio y bydd eu cefndiroedd yn gallu sicrhau trafodaeth ddeallus ac adeiladol.”
‘Her’
Dywedodd llefarydd y Ceidwadwyr ar Dreftadaeth a’r iaith Gymraeg, Suzy Davies: “Rhaid i’r arolwg hwn gadw cydbwysedd rhwng parchu dathliadau hanesyddol a diwylliannol yr ŵyl hon yng Nghymru a nodi ffyrdd o foderneiddio, ehangu apêl yr Eisteddfod a gwella o ran ei marchnata.
“Fel digwyddiad cenedlaethol, mae’r Eisteddfod yn wynebu rhai heriau ariannol oherwydd ei hymrwymiad i gynrychioli Cymru gyfan drwy newid lleoliad bob blwyddyn.
“Mae’n bwysig bod yr arolwg hwn yn ymgysylltu’n effeithiol â selogion yn ogystal â phobl nad ydynt, o bosib, wedi bod i’r Eisteddfod o’r blaen ac a allent, o bosib, nodi rhwystrau posib wrth gynyddu nifer yr ymwelwyr.”
“Fodd bynnag, bydd rhaid i’r grŵp gydnabod mai gallu’r Eisteddfod i gyrraedd pob cwr o Gymru yw un o’r rhesymau am ei llwyddiant.
“Mae ganddi ran i’w chwarae yng nghadarnleoedd y Gymraeg wrth gynnal ystwythder, a rhan i’w chwarae mewn ardaloedd sy’n draddodiadol ddi-Gymraeg wrth helpu cenedlaethau newydd o Gymry Cymraeg a dysgwyr.”