Adele
Mae Adele wedi cadarnhau mai hi fydd yn canu’r gân  ar gyfer y ffilm James Bond newydd Skyfall.

Dywedodd ei bod wedi cyd-weithio gyda Paul Epworth i ysgrifennu’r gân, sy’n dwyn yr un teitl â’r ffilm.

Cafodd y gân ei recordio yn Stiwdios Abbey Road yn Llundain ac fe fydd i’w chlywed am y tro cyntaf ar wefan Adele am 0.07yb ddydd Gwener.

Fe fydd yr actor Daniel Craig unwaith eto yn chwarae James Bond a bydd y ffilm yn cael ei rhyddhau ar 26 Hydref.

Ymhlith y cantorion eraill sydd wedi canu’r thema ar gyfer ffilmiau Bond mae Syr Tom Jones, Shirley Bassey, Lulu a Duran Duran.