Lowri Morgan
Y ffilm fer Patagonia oedd enillydd mawr noson wobrau BAFTA Cymru neithiwr.
Enillodd Marc Evans wobr y cyfarwyddwr ffuglen gorau, Mali Evans am olygu’r ffuglen, Jo Evans am wneud colur a gwallt ar gyfer y rhaglen, a Simon Fraser am y sain.
Cafodd enwebiad hefyd ar gyfer y Ffilm Nodwedd neu Deledu orau.
Y rhaglen amlwg arall ar y noson oedd Ras yn Erbyn Amser, a fu’n dilyn hynt a helynt yr athletwraig Lowri Morgan wrth iddi hyfforddi.
Enillodd hithau wobr y cyflwynydd gorau ar gyfer y rhaglen a chafodd y rhaglen ei henwi’n gyfres ffeithiol orau’r flwyddyn, ac enillodd enwebiadau am y ffotograffiaeth orau a’r golygu ffeithiol gorau.
Y rhaglen gerddoriaeth Gymraeg, Bandit a enillodd y wobr yn y categori Cerddoriaeth ac Adloniant.
Cafodd gwobrau cyfraniad arbennig eu cyflwyno i’r actor Robert Pugh a John Hefin.
Derbyniodd Robert Pugh Wobr Siân Phillips, tra bod John Hefin wedi derbyn Gwobr Cyfraniad Arbennig am ei gyfraniad i fyd y ddrama deledu.
Cafodd y noson ei chynnal yng Nghanolfan y Mileniwm yng Nghaerdydd.