Syr Jimmy Savile
Mae teulu Syr Jimmy Savile wedi beirniadu rhaglen ddogfen gan ITV sy’n honni ei fod wedi cam-drin merched ifanc yn rhywiol.

Mae’r rhaglen, Exposure: The Other Side Of Jimmy Savile, sy’n cael ei ddarlledu yn ddiweddarach yr wythnos hon, yn honni bod y cyflwynydd teledu wedi cam-drin merched yn ei Rolls Royce a chanolfan deledu’r BBC yn y 70au.

Dywed Roger Foster,  nai Syr Jimmy, bod y teulu wedi eu “ffieiddio a’u siomi” bod yr honiadau yn cael eu gwneud yn dilyn marwolaeth y cyflwynydd ar 29 Hydref y llynedd yn 84 oed, ac nad yw’n gallu  amddiffyn ei hun.