Mae nofel oedolion gyntaf JK Rowling, awdures y gyfres Harry Potter, wedi derbyn ymateb cymysg gan feirniaid llenyddol.
Mae ei nofel The Casual Vacancy yn cael ei gyhoeddi heddiw.
Dywedodd golygydd llyfrau’r Daily Mirror y gallai’r darllenwyr gael sioc, gan ychwanegu fod y llyfr yn cynnwys “iaith anweddus” a’i fod yn “frwnt ac yn llwm iawn”.
Ychwanegodd, serch hynny, ei fod wrth ei fodd a bod y llyfr yn cynnig “darlun difyr o’r gymdeithas Brydeinig heddiw”.
Cafodd y llyfr ei alw’n “faniffesto sosialaidd diddiwedd sy’n esgus bod yn llenyddiaeth” gan Jan Moir o’r Daily Mail.
Gofynnodd Jan Moir “pwy feiddiai olygu gwaith yr awdures fwyaf llwyddiannus yn y byd?”
Roedd yna beth ganmoliaeth gan Allison Pearson o’r Daily Telegraph, a ddywedodd fod y llyfr yn “ddoniol”.
Cafodd ei ddisgrifio gan Boyd Tonkin o’r Independent fel cymysgedd o arddull Irvine Welsh (Trainspotting) a’r awdures Joanna Trollope.
Daeth y ganmoliaeth fwyaf gan Erica Wagner o’r Times, wrth iddi gymharu JK Rowling a Charles Dickens, gan ddweud bod yr awdures wedi “cymryd arni ei hun i adfywio’r ddelwedd o’r nofel fel offeryn ar gyfer daioni”.