Dylan Thomas
Bydd un o ddramâu enwocaf Cymru yn cael ei pherfformio trwy gyfrwng cyfres o drydariadau ar Twitter.

Bydd saith o gymeriadau drama Dylan Thomas yn trydar 28 o negeseuon byrion yn seiliedig ar sgript yr awdur o Abertawe.

Cafodd Under Milk Wood ei sgrifennu ar gyfer y radio yn 1954 ond cafodd ei throsi yn ffilm yn 1972 gyda Richard Burton a Ryan Davies ynddi.

Ymhlith cymeriadau adnabyddus y ddrama mae Capten Cat, Mrs Ogmore-Pritchard, y Parchedig Eli Jenkins a Polly Garter.

Bydd y perfformiad ar Twitter yn cyd-ddigwydd gyda Diwrnod Cenedlaethol Barddoniaeth ar Hydref 4 a gall pobol ddilyn y perfformiad trwy gyfrif Twitter Canolfan Dylan Thomas neu drwy ddefnyddio #milkwood.

Dywedodd Aelod o gabinet Cyngor Abertawe, y Cynghorydd Nick Bradley, fod “perfformio fersiwn wedi’i thalfyrru o Under Milk Wood ar Twitter yn syniad gwych.”

“Bydd yn dod â Dylan Thomas i’r unfed ganrif ar hugain ac yn cyflwyno ei waith i gynulleidfaoedd newydd a chenhedlaeth newydd.

“Mae’n bwysig i ni wneud popeth i ddathlu cysylltiadau Dylan ag Abertawe, yn enwedig wrth i ni agosáu at ganmlwyddiant ei eni yn 2014.”

Brodor o Gwmdoncin, Abertawe oedd Dylan Thomas, ond mae Cei Newydd yng Ngheredigion a Thalacharn yn Sir Gaerfyrddin ill dau yn hawlio’r clod am ysbrydoli Llareggub, sef y pentref glan môr yn Dan y Wenallt.

Bu Dylan Thomas yn byw yn Nhalacharn a threuliodd gyfnodau yn lletya yng Nghei Newydd.