Abertawe
Mae’r cyfarwyddwr ac awdur sgriptiau Hollywood, David S Goyer wedi dweud bod gan Abertawe ran allweddol i’w chwarae yn y byd ffilm yn y dyfodol.
Mae awdur sgriptiau Dark Knight Rises a Blade wedi canmol cyfleusterau stiwdio Bay Studies yn Fabian Way ar gyrion y ddinas.
Y gyfres ddiweddaraf i gael ei ffilmio yn y ddinas yw Da Vinci’s Demons, sydd hefyd yn cael ei ffilmio yng Nghastell Margam ac amryw leoliadau eraill yng Nghastell-nedd a Phort Talbot.
Mae’r ffilm yn seiliedig ar fywyd yr arlunydd Leonardo da Vinci.
Mae’r stiwdio ar Fabian Way ar y safle lle’r oedd ffatri Visteon.
Cestyll
Yn ôl Goyer, y prif reswm am ddewis Cymru fel lleoliad oedd oherwydd y cestyll, ac mae yna le i gredu bod y cynhyrchiad eisoes wedi cyfrannu £20 miliwn i’r economi leol.
Mae 3,300 o swyddi dros dro wedi cael eu creu yn ystod y ffilmio, yn ogystal â 163 o swyddi parhaol.
Tom Riley a Laura Haddock yw sêr y gyfres.
Dywedodd David S Goyer wrth y South Wales Evening Post: “Mae Cymru wedi bod yn wych, ond yn wlyb iawn – mae wedi bod yn dipyn o her i ffilmio. Cawson ni’r tywydd gwaethaf erioed yn ystod y rhaglenni roeddwn i’n gweithio arnyn nhw.
“Ond rwy wrth fy modd, mae’n hardd iawn yma.”