Mae cyfres ddogfen ar S4C yn mynd i’r afael â phwnc tabŵ trais yn y cartref yn erbyn dynion nos yfory.
Bydd y rhaglen O’r Galon: Cariad sy’n Curo yn cyfweld â dau ddyn sydd wedi cael eu curo gan eu cynbartneriaid. Trafodaeth allweddol y rhaglen fydd a oes yna ddigon o gefnogaeth i ddynion sy’n cael eu cam-drin gan eu partneriaid.
Mae camdriniaeth yn cynnwys seicolegol, emosiynol a chorfforol, a chafodd chwe dyn eu gwahodd gan y cwmni cynhyrchu, Barefoot Rascals i gymryd rhan mewn gweithdy Fforwm Theatr.
Dywedodd pob un o’r chwech nad oes digon o gefnogaeth ar eu cyfer a bod y system wedi eu siomi.
Siaradon nhw’n anhysbys â’r rhaglen gan gredu y gallai’r rhaglen effeithio ar eu plant a’u teuluoedd.
Mae’r rhaglen wedi ail-greu nifer o sefyllfaoedd sy’n cael eu disgrifio gan y dynion.
‘Neb yn gwrando’
Dywedodd un o’r dynion ar y rhaglen: “Cyn y berthynas yma, ro’n i’n berson reit hyderus, ychydig bach o jac-the-lad ella, ond rŵan dwi bob tro’n stepio yn ôl o bethau… Nid dim ond fy hyder mae ’di lladd, mae ’di lladd f’enaid i hefyd.
“Gwraidd y broblem ydi bod neb yn gwrando ar lais dyn. Mae cymdeithas yn derbyn rŵan bod o’n digwydd i ferched ond does neb yn coelio bod o’n digwydd i ddyn.”
Dywedodd dyn arall ei fod e wedi cael ei gyhuddo ar gam gan ei gynbartner, er mai hi oedd wedi cael ei gam-drin ganddi hi.
“Wnes i ddysgu bod y system yn d’erbyn di os wyt ti’n ddyn. Fe wnaeth hi gyhuddiad yn f’erbyn i, yn dweud fy mod i am kidnapio’r plant. Fe wnaeth yr heddlu ddweud bo fi ddim yn cael mynd o fewn dwy filltir i’r plant.”
Dywedodd y cynhyrchydd a’r cyfarwyddwr, Frances Adie: “Pan ddechreuais i ymchwilio i’r pwnc, roeddwn i’n tybio bod dynion yn dioddef yn dawel oherwydd eu bod yn teimlo embaras neu ofn am beth fyddai cymdeithas yn meddwl ohonyn nhw.
“Sylweddolais yn fuan fod y rhesymau y tu ôl i ddistawrwydd y dynion yn llawer mwy cymhleth na hynny.
“Mae’r dynion yma’n fregus ar ôl dioddef camdriniaeth yn y cartref ac yn gorfod wynebu bygythiadau na fyddan nhw’n cael gweld eu plant. Mae’n anodd cael y cymorth iawn, gan nad oes digon o wasanaethau ar gael i gefnogi’r dynion.”
Mae’r rhaglen wedi derbyn cyngor gan nifer o asiantaethau a chyrff sy’n ymdrin â thrais yn y cartref, gan gynnwys Gwasanaethau Trais yn y Cartref De Gwynedd, Prosiect Dyn, TAD Cymru – Dau Riant Angen, Gwasanaeth Trais yn y Cartre’ Gorwel, Cymorth i Fenywod Cymru a Heddlu Gwent.
Dywedodd Swyddog Datblygu Gwasanaethau Trais yn y Cartref De Gwynedd, Elwen Roberts: “Mae’r ystadegau’n dangos bod o’n digwydd mwy i ferched ond dwi’n meddwl bod rhaid i ni gwestiynu’r ystadegau – dydyn nhw ddim bob amser yn rhoi’r darlun cywir achos does neb yn gwybod be sy’n digwydd tu ôl i ddrysau caeedig.”