Mae ymgyrch ar-lein wedi cael ei sefydlu er mwyn amddiffyn y Cymoedd, yn dilyn portread negyddol o’r ardal ar raglen realiti MTV, The Valleys.
Mae’r gyfres, sy’n dechrau nos Fawrth, yn dilyn hynt a helynt criw o naw o bobl ifanc o’r Cymoedd sy’n symud i Gaerdydd.
Mae’r tŷ yn cynnwys dafad siglo a chennin ar y papur wal.
Mae MTV wedi gwadu bod y gyfres yn ceisio creu darlun ystrydebol o’r Cymoedd.
Nod yr ymgyrch ar-lein, The Valleys are Here, yw portreadu’r Cymoedd mewn modd realistig, a dangos yr her y mae’r ardal ddifreintiedig yn ei hwynebu.
Mae’r ymgyrchwyr wedi penderfynu gofyn i MTV gyfrannu 5% o incwm hysbysebu’r rhaglen i gael ei roi i elusen yn y Cymoedd.
Tra bod rhai enwogion o Gymru, gan gynnwys y cyn-chwaraewr rygbi Gareth Thomas a’r canwr Ian ‘H’ Watkins (Steps), yn cefnogi’r rhaglen, mae eraill, fel Charlotte Church, wedi ei beirniadu.
Mae’r gyfres yn dechrau nos Fawrth am 10 o’r gloch ar MTV.