Damian Lewis gyda Claire Danes
Mae dau actor o Brydain wedi cipio gwobrau Emmy mewn seremoni yn Los Angeles heddiw.

Cafodd y Fonesig Maggie Smith wobr am ei rôl yn y gyfres Downton Abbey tra bod Damian Lewis wedi cipio gwobr am chwarae milwr Americanaidd yn y gyfres Homeland.

Roedd Homeland hefyd wedi cipio gwobr am y ddrama orau gan guro Downton Abbey a Mad Men.

Fe enillodd Claire Danes Emmy am yr actores orau mewn cyfres ddrama am chwarae swyddog FBI yn Homeland.