Mae un o brif gantorion Cymru wedi galw am newidiadau mawr yn yr Eisteddfod Genedlaethol, gan roi’r pwyslais yn ôl ar gystadlu a’r Pafiliwn.

Mae’r tenor o Fôn, Gwyn Hughes Jones, wedi galw am greu fforwm i drafod y Brifwyl a chystadlu gan ddweud bod yr Eisteddfod wedi “anghofio ei phwrpas sylfaenol”.

Mae hefyd wedi galw am ailystyried pwrpas y Rheol Gymraeg – nae’n cefnogi caniatâ canu arias mewn ieithoedd eraill – ac wedi rhybuddio bod peryg i safonau syrthio.

Angen cystadlu o safon

“Os ydan ni am i Eisteddfod Genedlaethol Cymru fod yn ffenest siop ar ein diwylliant, yna mae’n rhaid cael cystadlu a chystadlu o safon er mwyn sicrhau dathlu a gwobrwyo’r gwaith gorau,” meddai’r tenor rhyngwladol.

“Tydi hi ddim yn dderbyniol fod cystadleuwyr – ar bob awr o’r dydd – yn perfformio i Bafiliwn sy’n cynnwys, weithiau, llai na 100 o bobol yn y gynulleidfa.

“Mae angen edrych eto ar, nid yn gymaint y defnydd o’r Pafiliwn ond beth sy’n cael ei wneud i ddenu cynulleidfaoedd i’r Pafiliwn.”

Anghofio ei phwrpas

Roedd peryg, meddai Gwyn Hughes Jones, fod gormod o sylw’n cael ei roi ar nifer y bobol sy’n dod i’r Maes yn hytrach na safon y cystadlu.

“Mae peryg fod mesur llwyddiant trwy gyfri gwerthiant tocynnau i’r Maes yn cuddio’r ffaith fod Y Brifwyl wedi anghofio ei phwrpas sylfaenol,” meddai.