Dywedodd pennaeth sianel deledu leol Caerdydd nad oes rheidrwydd ar y sianel i ddarlledu yn Gymraeg, ond eu bod nhw’n awyddus i adlewyrchu twf yr iaith yn y ddinas.
Ddoe cyhoeddodd Ofcom mai Made in Cardiff sydd wedi derbyn y drwydded ar gyfer darlledu sianel leol i’r brifddinas, a dywedodd pennaeth y sianel wrth Golwg360 ei bod hi’n “fenter gyffrous.”
“Does dim byd fel hyn wedi cael ei gyflwyno o’r blaen felly mae’n ddalen lân,” meddai Bryn Roberts, a fu’n Rheolwr Gyfarwyddwr ar gwmni adnoddau teledu Barcud Derwen, a ddaeth i ben yn 2010.
Bwriad Made in Cardiff yw dechrau darlledu yn yr haf 2013, gan gyflogi rhwng 18 ac 20 o bobol.
Arian gan y BBC
Bydd y sianel yn cael ei darlledu yn rhad ac am ddim i wylwyr o fewn y ddinas, ac yn gwerthu hysbysebion ac yn derbyn arian gan y BBC am y flwyddyn gyntaf.
“Mae trefniant ein bod ni’n cyflenwi’r BBC gyda lluniau am gyfnod penodol,” meddai Bryn Roberts.
“Fe fyddwn ni’n darlledu dwy raglen newyddion hanner awr o hyd bob dydd a bydd modd i’r BBC ddefnyddio ein lluniau ni.
“Does dim rheidrwydd arnon ni o gwbwl i ddarlledu’n Gymraeg ond rydym ni’n dymuno darparu rhywfaint o Gymraeg ac adlewyrchu’r ffaith fod nifer y siaradwyr Cymraeg yn y ddinas yn codi,” meddai Bryn Roberts.
Buodd cwmni Made hefyd yn llwyddiannus gyda chais i ddarlledu teledu lleol Bryste, ac maen nhw’n aros i glywed am geisiadau mewn dinasoedd eraill.
Roedd dau gais ar gyfer trwydded i ddarlledu sianel i Gaerdydd, ond ni fu cais i redeg teledu lleol yn ail ddinas fwyaf Cymru, Abertawe.