Meilir Jarrett
Mae tenant newydd wedi cael ei benodi i’r Ysgwrn ger Trawsfynydd, sef cartref y bardd Hedd Wyn.

Cyhoeddodd Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri heddiw mai Meilir Jarrett, 23 oed o Drawsfynydd fydd y tenant newydd.

Bydd yn dechrau ar ei swydd ar 1 Tachwedd.

Dywedodd y Cyfarwyddwr Rheoli Tir, Emyr Williams: “Roedd penodi tenant i ffermio a rheoli’r tir amaethyddol yn Yr ‘Ysgwrn’ yn ran allweddol o reolaeth cynaladwy y tir.

“Mae Meilir yn hogyn ifanc, lleol, gwybodus a brwdfrydig ac edrychwn ymlaen at gael cydweithio gyda’n gilydd er mwyn sicrhau dyfodol llewyrchus a llwyddiannus i’r ‘Ysgwrn’.”

Hanes a diwylliant

Mae’r ‘Ysgwrn’ yn fferm fynyddig ac yn cwmpasu 170 acer o dir amaethyddol, hawliau pori comin, beudai ynghyd â da byw sy’n cynnwys 200 o ddefaid Cymreig a 5 o heffrod duon Cymreig.

Wrth ymateb i’w benodiad, dywedodd Meilir Jarrett : “Rwy’n hynod falch o gael y cyfle yma gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri i ddechrau amaethu. Rwy’n lwcus fy mod i am fedru gweithio yn fy milltir sgwar, ond hefyd mewn daliad mor adnabyddus a phwysig o ran hanes a diwylliant Cymru”.

Farmers Marts (R G Jones) oedd yr asiant gafodd ei ddefnyddio i oruchwylio’r broses o weinyddu ceisiadau’r denantiaeth a’r un cwmni fydd hefyd yn gyfrifol am arwerthiant offer amaethyddol Yr Ysgwrn sy’n cael ei gynnal fore Sadwrn, 22 Medi.