Mae cyfrol Saesneg newydd yn dathlu bywydau 75 o Gymry amlwg sydd wedi gadael eu marc ar Gymru.

Mae enwogion o feysydd gwleidyddiaeth, chwaraeon, y cyfryngau a’r gyfraith yn cael sylw yn Welsh Lives: Gone but not forgotten, sy’n cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa.

Mae’r gyfrol wedi cael ei llunio ar sail cyfres o ysgrifau gan Meic Stephens, a rhai ohonynt wedi cael eu cyhoeddi ym mhapur newydd The Independent o 1999 hyd at 2012.

Hon yw ail gyfrol yr awdur o’i ysgrifau coffa.

Cafodd Necrologies ei chyhoeddi yn 2008, gyda 72 o ysgrifau o fewn ei chloriau.

Mae’r bobol sy’n cael eu coffáu yn Welsh Lives yn cynnwys yr ymgyrchydd iaith Eileen Beasley, yr actorion Huw Ceredig a Margaret John, y newyddiadurwraig a’r colofnydd Hafina Clwyd, yr academydd Hywel Teifi Edwards, y chwaraewr rygbi a’r darlledwr Ray Gravell, y bardd a’r Archdderwydd Dic Jones a’r reslwr Orig Williams.

Dywedodd Meic Stephens: “Pwrpas ysgrifau coffa yw dathlu bywyd, nid nodi marwolaeth.

“Rwy’n credu fod teitl y llyfr, Welsh Lives: Gone but not forgotten yn crynhoi’r hyn rwy’ eisiau ei gyfleu: rydym ni’n cofio’r unigolion rheiny sy’n ymddangos yn y llyfr am waith eu bywyd.

“Ac o’u cofio, maen nhw’n dal i fyw yng nghof y Gymru a’r byd wnaethon nhw helpu ei siapio.”