Angladd Nicola Hughes
Daeth miloedd o blismyn o heddluoedd ar draws Cymru a Lloegr i angladd y blismones gafodd ei lladd mewn ymosodiad ym Manceinion fis diwethaf.

Roedd cannoedd o aelodau’r cyhoedd hefyd wedi ymgynnull ar strydoedd Manceinion wrth i angladd y blismones Nicola Hughes, 23, gael ei gynnal.

Yng nghanol y ddinas, roedd gweithwyr wedi gadael eu swyddfeydd, roedd siopau’n dawelech nag arfer ac fe stopiodd gwaith adeiladu fel arwydd o barch tuag at y blismones.

Cafodd Nicola Hughes, o Oldham, a’r blismones Fiona Bone, 32 eu lladd ar ôl cael eu galw i dy yn dilyn adroddiad am fyrgleriaeth yn Hattersley, Tameside ar 18 Medi. Fe ymosodwyd arnyn nhw gyda gwn a grenadau.

Fe ymunodd Nicola Hughes a’r heddlu ym Manceinion yn 2009. Dywedodd ei theulu ei bod hi eisiau gwneud gwahaniaeth a’i bod yn gwneud swydd yr oedd yn ei charu.

Fe fydd angladd Fiona Bone yn cael ei gynnal yfory.