Gallai hyd at 400 o bobl golli eu swyddi yng nghanolfan alwadau’r AA yng Nghaerdydd.
Mae’r cwmni moduro wedi dweud y bydd yn canoli mwy o waith yn y ganolfan alwadau yn Newcastle, sy’n golygu y gallai’r gweithwyr yng Nghaerdydd orfod symud i swyddfa lai yn y pen draw.
Fydd y rhannau o’r cwmni sy’n cynnig gwersi gyrru, gan gynnwys BSM, ddim yn cael eu heffeithio.
Mae 3,000 o 8,000 o weithwyr y cwmni’n gweithio mewn canolfannau galwadau.
Mae cyfnod ymgynghori 90 diwrnod eisoes wedi dechrau.
Mewn datganiad, dywedodd y cwmni: “Mae newidiadau yn y ffordd y mae pobl yn prynu ac yn adnewyddu yswiriant – yn enwedig y twf sylweddol mewn trafodion ar-lein, gan arwain at lai o werthiant dros y ffôn drwy ganolfannau galwadau confensiynol – wedi arwain yr AA i ystyried y ffordd y mae’n gofalu am ei gwsmeriaid drwy ei holl ganolfannau galwadau ffyrdd ac yswiriant, fel rhan o arolwg ledled y DU.”
Mae disgwyl i’r cwmni gyhoeddi y bydd 183 o swyddi newydd yn cael eu creu yn Newcastle, tra bod 150 o swyddi yn cael eu cadw yng Nghaerdydd.