Megan Stammers
Mae’r heddlu yn Ffrainc wedi dod o hyd i’r ferch ysgol Megan Stammers yn Bordeaux.
Mae hi yng ngofal yr awdurdodau tra bod ei hathro mathemateg, Jeremy Forrest, wedi cael ei arestio ar amheuaeth o gipio plentyn medd Heddlu Sussex.
Roedd y ddau wedi ffoi ar long i Ffrainc Ddydd Sul ac roedd yr heddlu wedi cyhoeddi warant rhyngwladol ddoe er mwyn arestio’r athro 30 oed.
Dywedodd yr heddlu brynhawn yma fod y ddau yn fyw ac yn iach, a’u bod nhw wedi cael eu canfod diolch i adroddiadau am y ddau ar y cyfryngau yn Ffrainc.
Mae teuluoedd Megan Stammers a Jeremy Forrest wedi cael eu hysbysu. Roedd rhieni’r ddau wedi apelio arnyn nhw yn ystod yr wythnos i ddod i gysylltiad â nhw.