Mankini
Mae’r heddlu yn cipio mankinis a phidynnau ffug oddi ar yfwyr yn Newquay, er mwyn gwella delwedd cyrchfan sy’n boblogaidd gyda phartis cyn-priodi a chriwiau sy’n hoffi meddwi’n dwll.

Hefyd mae gan blismyn yr hawl i anfon pobol adref i newid ac maen nhw’n hawlio bod y gwaharddiad wedi arwain at lai o gambyhafio ac ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Meddai Julie Whitmarsh, Uwcharolygydd Heddlu Dyfnaint a Chernyw: “Rydym o’r farn bod y mankini yn ddilledyn-codi-gwrychyn, felly wnawn ni ddim goddef unrhyw un sy’n ei wysgo. Maen nhw’n afiach.”

Daeth y mankini’n boblogaidd yn dilyn y ffilm Borat.