Andy Coulson

Mae cyn-swyddog cyfathrebu David Cameron, Andy Coulson a chyn-brif weithredwr News International, Rebekah Brooks wedi ymddangos gerbron llys yr Old Bailey.

Maen nhw wedi eu cyhuddo fel rhan o’r ymchwiliad i hacio ffonau.

Ymddangosodd pump o newyddiadurwyr eraill yn y llys y bore yma, yn ogystal â’r ymchwilydd preifat, Glenn Mulcaire.

Mae Stuart Kuttner, Greg Miskiw, Ian Edmondson, Neville Thurlbeck, James Weatherup hefyd wedi eu cyhuddo mewn perthynas â honiadau o glustfeinio ar negeseuon ffôn.

Bydd achos llys Andy Coulson a Rebekah Brooks yn dechrau fis Medi nesaf.

Maen nhw wedi eu cyhuddo o gynllwynio i gael mynediad i negeseuon peiriant ateb dros y ffôn.

Mae’r erlynwyr wedi dweud ei bod hi’n bosib iddyn nhw dargedu mwy na 600 o bobl.

Mae’r pump newyddiadurwr arall, y cyn-olygydd gweithredol Stuart Kuttner, y cyn-olygydd newyddion Greg Miskiw, y cyn-bennaeth newyddion Ian Edmondson, y cyn-ohebydd James Weatherup a’r cyn-brif ohebydd Neville Thurlbeck yn wynebu cyhuddiadau o gynllwynio i gael mynediad anghyfreithlon i negeseuon.

Andy Coulson oedd golygydd News of the World rhwng 2003 a 2007, tra bod Rebekah Brooks yn golygu’r News of the World rhwng 2000 a 2003 cyn golygu’r Sun a dod yn brif weithredwr News International yn ddiweddarach.

Mae Rebekah Brooks eisoes yn wynebu cyhuddiadau o wyrdroi cwrs cyfiawnder, ynghyd â’i gŵr Charlie.

Maen nhw wedi eu cyhuddo o guddio tystiolaeth oddi wrth yr heddlu sy’n ymchwilio i achosion o hacio ffonau, a thaliadau llwgr gan y ddau bapur i swyddogion y cyhoedd.

Mae’r diffynyddion i gyd wedi cael eu rhyddhau ar fechnïaeth.