Senedd Gwlad Groeg
Mae gweithwyr yng Ngwlad Groeg yn cynnal y streic gyffredinol cyntaf ers i Lywodraeth Glymblaid y wlad gael ei ffurfio ym mis Mehefin.

Daw’r streic wrth i’r llywodraeth gyflwyno rhagor o doriadau i fynd i’r afael a’r argyfwng economaidd yn y wlad.

Fe fydd y brotest yn golygu y bydd na oedi mewn meysydd awyr, ac y bydd ysgolion, ysbytai, siopau a gwasanaethau fferi yn cau.

Bydd plismyn yn cael eu hanfon i Athen er mwyn  sicrhau nad oes trafferthion yn ystod y protestiadau, fel sydd wedi digwydd yn y gorffennol.