Mae Gweinidog Addysg Cymru heddiw’n lansio cynllun i godi safon rhifedd plant Cymru.

Dywed Leighton Andrews ei fod am newid yr agwedd fod cael sgiliau rhifo gwael yn dderbyniol.

Bydd plant ysgolion cynradd, a hyd at flwyddyn 9 yn yr ysgol uwchradd, yn cael eu hasesu, ond mae undebau athrawon wedi amau gwerth rhagor o brofion.

Mae NUT Cymru wedi mynegi pryder fod sgiliau plant yn cael eu mesur yn hytrach na’u datblygu, ac y bydd rhagor o brofion yn lleihau’r amser fydd gan athrawon i ddatblygu’r sgiliau.

Dywed Llywodraeth Cymru eu bod nhw wedi ymgynghori gydag arbenigwyr ym maes rhifeg ac addysg, a bydd Leighton Andrews yn lansio’r cynllun heddiw yn ysgol gynradd Ynystawe ger Abertawe.