Nick Clegg
Fe fydd Nick Clegg yn apelio ar y Democratiaid Rhyddfrydol i ddyfalbarhau gyda’r Llywodraeth Glymblaid heddiw wrth iddo annerch aelodau yng nghynhadledd y blaid yn Brighton.
Bydd y Dirprwy Brif Weinidog yn rhybuddio yn erbyn dychwelyd i fod yn wrthblaid gan gyflwyno ei weledigaeth ar gyfer y blaid tu hwnt i etholiad cyffredinol 2015.
Mae hi wedi bod yn wythnos stormus i’r blaid wrth iddi wynebu beirniadaeth ynglŷn â chynlluniau i wasgu’r cyfoethog ac atal taliadau tanwydd a thocynnau bysys rhad ac am ddim i bensiynwyr cefnog.
Mae Nick Clegg wedi bod yn ceisio argyhoeddi ei blaid ei fod yn benderfynol o sicrhau y bydd pobl gefnog yn chwarae eu rhan wrth i’r Llywodraeth gyflwyno rhagor o doriadau.
Bydd yn dweud wrth ei blaid: “Os wnawn ni ddiogelu dyfodol ein gwlad, yna fe fyddwn ni hefyd yn sicrhau ein dyfodol ni.”
Mae angen dyfalbarhau gyda’r Glymblaid, oherwydd nid yw troi nôl yn opsiwn, bydd yn dweud wrth y Dems Rhydd.
Yn ei araith fe Nick Clegg hefyd yn datgelu cynllun i roi gwersi ychwanegol i ddisgyblion sy’n dechrau ysgol uwchradd heb y sgiliau angenrheidiol mewn mathemateg a darllen.