Mae cyn-arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Rod Richards wedi dweud bod cynllun i hyfforddi Aelodau Cynulliad ar sut i ofyn cwestiynau yn wastraff arian.
Daeth i’r amlwg fod 10 sesiwn gwerth £10,000 wedi cael eu hariannu drwy arian cyhoeddus, gyda’r bwriad o wella sgiliau’r Aelodau Cynulliad.
Dywedodd Rod Richards: “Mae’n warthus eu bod nhw hyd yn oed wedi meddwl am hyn, heb sôn am wario arian cyhoeddus pan fo pawb arall yn gorfod torri’n ôl oherwydd y wasgfa.
“Dylai’r pleidiau gwleidyddol eu hunain, sy’n dewis yr ymgeiswyr a’r gwleidyddion, fod yn talu i hyfforddi pobl i fod yn wleidyddion a sut i wisgo.”
‘Buddiol’
Defnyddiodd Comisiwn y Cynulliad yr arian cyhoeddus i dalu am y sesiynau.
Mae’r Comisiwn yn cael ei ariannu’n gyhoeddus ac mae’n gyfrifol am ddarparu gwasanaethau i gefnogi gwleidyddion.
Un o’r gwleidyddion a fanteisiodd ar y sesiynau oedd Aelod Cynulliad Sir Fynwy, Nick Ramsay.
Dywedodd fod y sesiynau wedi bod yn fuddiol ond ei fod wedi cael sioc wrth glywed am y gost.
Mae Dirprwy Lywydd y Cynulliad, David Melding yn mynnu o hyd bod y rhaglen yn werthfawr a’i bod yn arfer dda i gyflogwyr gynnig hyfforddiant i’w staff.
Dywedodd wrth BBC Cymru: “Pan gaiff unrhyw un ei ethol neu ei recriwtio i swydd sy’n gofyn am ystod o sgiliau, mae’n bwysig derbyn hyfforddiant a datblygiad.”
Ychwanegodd nad oedd y gost yn anghymesur.
Datblygu sgiliau
Dywedodd Llywydd y Cynulliad, Rosemary Butler fod rhai Aelodau Cynulliad wedi gofyn am yr hyfforddiant.
Nod y sesiynau, yn ôl y Comisiwn, oedd sicrhau bod yr Aelodau Cynulliad yn datblygu eu sgiliau deddfu.
Mae yna adroddiadau mai cost y sesiynau oedd £230 y pen.
Cafodd hyfforddiant tebyg ei roi i Aelodau Seneddol yr Alban yn y gorffennol.
Dywedodd Rosemary Butler: “Allaf i ddim deall pam y byddai unrhyw un yn beirniadu Aelodau Cynulliad am gael y cyfle i fanteisio ar hyfforddiant a fydd yn gwella ac yn codi eu sgiliau yn nhermau sicrhau atebolrwydd Llywodraeth Cymru, craffu ar ddeddfau Cymru a mynd i’r afael â phryderon eu hetholwyr.
“Mae gan y rhaglen datblygiad proffesiynol gefnogaeth drawsbleidiol gref o fewn y Cynulliad, gydag aelodau o bob grŵp gwleidyddol yn gwneud defnydd o’r gefnogaeth sydd ar gael.”