Mae’r arfer o gysylltu â phobol yn anuniongyrchol drwy gyfrwng e-byst a negeseuon fideo yn gwneud pobol yn llai parod i drafod wyneb yn wyneb.

Yn ôl pôl piniwn newydd mae’n well gan 68% o’r rheini a holwyd ymdrin â phobol eraill drwy e-byst neu ar y ffôn, hyd yn oed os ydyn nhw’n gweithio yn yr un adeilad.

Dywedodd rhai bod nhw’n gochel rhag cyd-weithwyr neu gleientiaid rhag ofn iddyn nhw ofyn cwestiynau anodd neu ofyn iddyn nhw ysgwyddo rhagor o waith.

Dim ond 32% oedd yn hoff o gael trafodaeth wyneb yn wyneb er mwyn datrys problem.

Roedd 52% yn dweud eu bod nhw’n llai hyderus wrth ymdrin â phobol wyneb yn wyneb am eu bod nhw wedi mynd mor ddibynnol ar e-byst, y ffôn, a Skype.

Yn ôl y pôl piniwn gan officebroker.com roedd y rhan fwyaf o bobol yn hoffi cysylltu ar e-bost oherwydd ei fod mor hawdd cadw cofnod ysgrifenedig.

“Mae datblygiadau technolegol wedi arwain at chwyldro yn y cyflymder yr ydyn ni’n gallu cyfathrebu â’n gilydd a faint o wybodaeth yr ydyn ni’n gallu ei rannu mewn cyfnod byr,” meddai llefarydd ar ran officebroker.com.

“Serch hynny mae’r pôl piniwn yn datgelu bod gweithwyr yn fwy na pharod i anfon negeseuon e-byst drwy’r dydd ac wedi colli’r gallu i gyfathrebu wyneb yn wyneb.

“Roedd nifer yn ystyried y ffôn fel ryw fath o gyfaddawd – roedden nhw’n gallu gadael i’r drafodaeth lifo, tra ar yr un pryd yn osgoi gorfod cyfarfod wyneb yn wyneb.”