Fe fydd safonau byw cartrefi sydd ar gyflogau isel neu ganolig yn syrthio hyd at 15% erbyn 2020, yn ôl adroddiad newydd.
Yn y cyfamser fe fydd safonau byw’r rheini sydd ar gyflogau uwch yn parhau i godi, gan greu gwlad sy’n fwy rhanedig o ran incwm.
Ni fydd safonau byw cartrefi sydd ar gyflogau isel neu ganolig ddim gwell erbyn diwedd y ddegawd nag oeddynt ar ddechrau’r argyfwng ariannol yn 2008, yn ôl melin drafod y Resolution Foundation.
Roedd cwymp o 15% yn unig mewn safonau byw yn seiliedig ar y dybiaeth y byddai’r economi yn dechrau tyfu ar raddfa o 2.5% bob blwyddyn o 2015 ymlaen.
Yn ôl yr adroddiad Who Gains From Growth? fe fydd cartrefi oedd ag incwm o £10.600 yn 2008 yn ennill £9,000 yn unig erbyn 2020 – cwymp o 15%.
Bydd cartref sydd ag incwm canolig, sef £23,000 yn 2008, yn ennill £22,200 yn unig erbyn 2020 – cwymp o 3%.
Dywedodd awduron yr adroddiad bod swyddi oedd yn cynnig cyflogau canolig, fel gwaith gweinyddol a chynhyrchu nwyddau, yn prysur ddiflannu.
Bydd dwy filiwn o swyddi sy’n talu’n dda yn cael eu creu erbyn diwedd y ddegawd, yn ogystal â 70,000 o swyddi sy’n talu’n is na’r cyfartaledd presennol.
Fe fydd newidiadau i fudd-daliadau yn cyfrannu at y cwymp yn safonau byw pobol ar incwm isel, yn ôl yr adroddiad.
Dywed yr adroddiad y bydd pobol sydd ar incwm isel a hefyd â phlant yn gweld y cwymp mwyaf yn eu safonau byw.
“Mae’r adroddiad yn ysgytwol,” meddai Gavin Kelly, prif weithredwr y Resolution Foundation.
“Mae’n dangos sut y bydd safonau byw pobol yn syrthio dros y degawd nesaf os nad ydyn ni’n gweithredu ar frys er mwyn gwella ein heconomi.
“Mae’n awgrymu y bydd miliynau o deuluoedd yn ei chael hi’n anodd iawn dod ag arian ychwanegol i mewn, hyd yn oed wrth i’r economi dyfu.
“Mae’n dychryn rhywun wrth feddwl bod y ffigyrau yma yn seiliedig ar beth fydyn digwydd os yw’r economi yn dechrau tyfu unwaith eto.”