Danny Alexander
Mae Prif Ysgrifennydd y Trysorlys, Danny Alexander, wedi cyhoeddi y bydd archwilwyr yn llymach wrth erlid pobol gyfoethog sy’n osgoi talu treth.

Fe fydd unrhyw un sydd werth dros £1 miliwn yn wynebu cael eu harchwilio, meddai yng nghynhadledd ei blaid heddiw.

Bydd 200,000 o bobol ychwanegol yn cael eu targedu gan ‘uned gefnog’ Cyllid a Thollau ei Mawrhydi.

Cafodd honno ei sefydlu er mwyn ymchwilio i 300,000 o bobol oedd ag asedau ac eiddo oedd werth £2.5 miliwn.

Dywedodd Danny Alexander wth bapur newydd y Mail on Sunday y bydd swyddogion yn “gwynto” unrhyw un nad oedd yn talu eu treth yn llawn.

“Y cefnog oedd wedi gwneud orau yn y blynyddoedd da ac mae’n deg eu bod nhw’n talu mwy yn awr,” meddai.

“Fe fydd yr uned yn edrych am anghysonderau ac yn dod o hyd i unrhyw broblemau.”

Daw hyn wedi i’r Ysgrifennydd Busnes, Vince Cable, gyhoeddi ei fod eisiau gweld y llywodraeth yn targedu llochesi rhag treth  a miliwnyddion oedd yn osgoi talu treth drwy fyw dramor.