Mae mwy o bobol yng Nghymru yn bwriadu prynu car yn ystod y chwe mis nesaf nag mewn unrhyw ran arall o’r Deyrnas Unedig, yn ôl arolwg newydd.

Dywedodd Sainsbury’s Bank bod dros chwarter poblogaeth Cymru – 26% – yn bwriadu prynu car rhwng nawr a mis Mawrth.

Mae hynny’n cymharu â’r cyfartaledd o 21% ar draws y Deyrnas Unedig. Yn yr Alban dim ond 16% oedd yn bwriadu prynu car yn y chwe mis nesaf.

Mae’r ffigwr yn gynnydd ar 18% chwe mis yn ôl ac yn awgrymu bod y diwydiant ceir yn cael ail wynt ar ôl trafferthion yr argyfwng ariannol.

Yn ôl yr arolwg, sy’n seiliedig ar gyfweliadau â 2,000 o bobol, bydd 9.8 miliwn o bobol yn prynu car newydd yn ystod y cyfnod dan sylw.

Roedd 9% ‘r rheini a holwyd yn bwriadu prynu car newydd. Yn Llundain roedd y ffigwr yn codi i 12%.