Andrew Mitchell
Mae Prif Chwip Llywodraeth San Steffan, Andrew Mitchell, wedi cyfaddef iddo regi ar heddweision y tu allan i Rif 10 Stryd Downing.

Ond mae’n gwadu eu galw nhw’n “plebs,” medai’r Daily Telegraph. Pan ddaeth y ffrae i’r amlwg ddydd Gwener, roedd wedi gwadu iddo regi o gwbl.

Cyfaddefodd Andrew Mitchell iddo ddefnyddio’r gair “f******” pan wrthododd heddwas yr hawl iddo seiclo allan drwy giatiau Stryd Downing.

Honnodd ei fod wedi dweud: “Ylwch, fi yw’r Prif Chwip. Rydw i’n gweithio yn Rhif 9 Stryd Downing. Rydych chi i fod i’n f****** helpu ni.”

Dywedodd un o’i gyfeillion wrth y papur newydd fod Andrew Mitchell “yn cyfaddef iddo golli ei limpyn”.

“Roedd yn teimlo’n rhwystredig, a doedd hynny ddim byd i’w wneud â’r heddweision. Dyna’r pedwerydd tro iddo fod yn Stryd Downing y diwrnod hwnnw, ac mae fel arfer yn cael gadael y brif giât ar ei feic.”

Mae un o’i gyd-wleidyddion yn y Cabinet, Ken Clarke, hefyd wedi amddiffyn Andrew Mitchell.

“Rydw i wedi ei nabod ers amser hir ac mae’n ddyn rhesymol a chwrtais a chanddo’r un parch at yr heddlu a phawb arall,” meddai.

“Mae’n amlwg ei fod wedi ei cholli hi am eiliad, ac wedi ymddiheuro. Rydw i’n credu mai dyna ddiwedd y mater.”