Leanne Wod
Mae arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood, wedi dweud ei bod hi’n disgwyl i ymgeiswyr y blaid yn etholiadau lleol Ynys Môn wrthwynebu adeiladu ail orsaf bŵer niwclear yno.

Bydd yr ynys yn ethol cynghorwyr flwyddyn yn hwyrach na gweddill y wlad, ar ôl i Lywodraeth Cymru orfod ymyrryd er mwyn cynnal yr awdurdod lleol.

Dywedodd Leanne Wood y bydd Plaid yn cefnogi creu swyddi yn seiliedig ar dechnoleg adnewyddadwy yn hytrach na niwclear.

Mae Aelod Cynulliad Plaid Cymru’r ynys, Ieuan Wyn Jones, yn cefnogi adeiladu ail orsaf niwclear yno, ond mae’r Blaid yn swyddogol yn erbyn.

Ond dywedodd Leanne Wood y bydd Plaid Cymru yn ceisio sicrhau “y bydd y swyddi yn mynd i bobol leol” os yw’r orsaf yn cael ei hadeiladu.

“Fe fyddaf i’n dweud wrth yr ymgeiswyr ei fod yn bwysig eu bod nhw’n cyfathrebu neges allweddol y Blaid, sef gwneud popeth yr ydyn ni’n gallu ar lefel llywodraeth leol, y Cynulliad a San Steffan i greu cynifer o swyddi a phosib ar yr ynys,” meddai Leanne Wood wrth raglen Sunday Politics.

Mae disgwyl i orsaf niwclear Wylfa gau yn 2014 ar ôl 43 mlynedd o greu ynni a swyddi ar yr ynys.

Mae cwmni Horizon yn gobeithio codi ail orsaf niwclear – Wylfa B – yn ei le, ac yn gobeithio denu cefnogaeth cwmnïoedd o dramor i fuddsoddi’r biliynau sydd eu hangen.