Simon Hughes
Mae Dirprwy Arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Simon Hughes, wedi cyfaddef ei fod yn anfon negeseuon testun at Ed Miliband.

Dywedodd Simon Hughes bod trafod â’r gwrthbleidiau yn rhan o “wleidyddiaeth synhwyrol ac aeddfed”.

Daw ei sylwadau wedi i’r Ysgrifennydd Busnes, Vince Cable, gyfaddef ei fod yntau mewn cysylltiad agos ag arweinydd y Blaid Lafur a changhellor yr wrthblaid.

“Rydw i wedi tecstio Ed Miliband,” meddai Simon Hughes. “Mae gen i’w rif ar fy ffon.

“Rydyn ni i gyd eisiau beth sydd orau i Brydain, ac mae hynny’n rhan o wleidyddiaeth synhwyrol ac aeddfed.

“Dydw i erioed wedi peidio trafod â Cheidwadwyr a’r Blaid Lafur ers i mi gyrraedd San Steffan. Mae cydweithio yn beth da gan amlaf.”

Mae dirprwy arweinydd y Blaid Lafur, Harriet Harman, wedi gwrthod awgrymiadau bod y blaid yn ceisio hudo’r Democratiaid Rhyddfrydol cyn yr Etholiad Cyffredinol nesaf.

Mynnodd nad oedden nhw’n bwriadu ffurfio clymblaid, ac na fyddai Llafur yn “cwtsio lan” â phlaid Nick Clegg.