Abersoch
Mae tri pherson wedi eu hachub o wibgwch yn Abersoch yng Ngwynedd.

Yn ôl adroddiadau, wnaeth y gwibgwch suddo, a bu’n rhaid i wylwyr y glannau achub dau oedolyn a pherson yn ei arddegau toc ar ôl 5pm heddiw.

Daeth yr achubiad yn dilyn galwad wrth y bobol ar ffôn symudol i wylwyr y glannau yng Nghaergybi pan ddechreuodd y dŵr ollwng yn y cwch.

Chafon nhw ddim un driniaeth pellach ar ôl cael eu hachub.