Mae’r heddlu wedi arestio dau ddyn ar amheuaeth o ladrata o siop ffonau symudol yng Nghaerdydd.
Cafodd nwyddau eu dwyn o siop Carphone Warehouse, ar Heol y Frenhines, am tua 9.30am heddiw.
Dywedodd yr heddlu bod hofrennydd a chŵn arogli wedi bod yn chwilio am ddau ddyn yn ardal Llandaf a Pontcanna.
Roedd y lladron wedi ffoi o mewn car ar ôl dwyn nwyddau o’r siop. Ni chafodd unrhyw un ei anafu, meddai’r heddlu.