Mae’r Dirprwy Brif Weinidog, Nick Clegg, wedi dechrau gyrfa newydd yn seren bop – wedi i gân sy’n seiliedig ar ei ymddiheuriad diweddar ddringo siartiau iTunes.
Fe gyrhaeddodd y gân rif 39 yn y siartiau, er mai dim ond am 12 awr yr oedd wedi bod ar gael yno.
Mae’n debyg mai Nick Clegg yw’r aelod cyntaf erioed o’r Cabinet i ennill lle yn y siartiau.
Cyfansoddwyd Nick Clegg Says I’m Sorry (The Autotune Remix) gan wefan The Poke. Mae’n seiliedig ar fideo YouTube o Nick Clegg yn ymddiheuro am addo i warchod ffioedd dysgu.
“Mae Nick Clegg wedi gweld yr ochor ddoniol,” meddai llefarydd ar ran y wefan.
“Mae llwyddiant y gân wedi ein synnu ni i gyd.”