De Sudan yn dathlu annibyniaeth
Mae Ysgrifennydd y Cenhedloedd Unedig, Ban Ki-Moon, wedi galw ar Sudan a De Sudan i ddod i gytundeb yn ystod cynhadledd yn Ethiopia.

Dywedodd y dylai Arlywydd Sudan, Omar al-Bashir, ac Arlywydd De Sudan, Salva Kiir, roi’r gorau i ffraeo dros olew a ffin ddadleuol y ddwy wlad.

Dylai’r trafodaethau esgor ar “gyfnod newydd o heddwch, cyd-weithio a datblygiad cilyddol i’r ddwy wlad a’u pobol,” meddai.

Mae’r Cenhedloedd Unedig wedi rhybuddio y gallai’r ddwy wlad fynd i ryfel ar ôl i Sudan wrthod derbyn cynnig gan Undeb Affrica i sefydlogi’r ffin.

Fe enillodd De Sudan ei annibyniaeth o Sudan y llynedd.