Mae Gogledd Korea wedi addo “dechrau rhyfel mawr” os yw De Korea yn parhau i saethu y tu mewn i’w dyfroedd tiriogaethol nhw.

Daw rhybudd y fyddin wedi i De Korea saethu at gychod pysgota o’r gogledd oedd wedi croesi ffin aneglur rhwng y ddwy wlad.

Mae’r Gogledd yn gwadu mai eu cychod pysgota nhw oedd yno, ac wedi cyhuddo’r De o gynllwynio yn eu herbyn nhw.

Bydd “rhyfel mawr” yn dilyn cyn bo hir os nad yw’r De yn rhoi’r gorau i’w castiau, medden nhw.

Mae cychod pysgota o’r Gogledd a’r De yn aml yn cystadlu am y safleoedd gorau yn ystod y tymor dal crancod.

Ond dyw Pyongyang ddim yn cydnabod y ffin forol a greuwyd gan y Cenhedloedd Unedig ar ôl Rhyfel Korea rhwng 1950 a 1953.

Mae hynny’n arwain at wrthdaro wrth i gapteiniaid cychod pysgota o’r ddwy wlad honni eu bod nhw ar ochor iawn y ffin forol.