Bydd Cymru yn wynebu tywydd stormus yfory, ddydd Llun, a dydd Mawrth, rhybuddiodd y Swyddfa Dywydd heddiw.
Mae disgwyl glaw trwm a gwynt cryf ar draws y wlad o ddechrau’r wythnos nesaf ymlaen. Fe fydd y tywydd garw yn symud i gyfeiriad y gogledd wrth i’r wythnos fynd rhagddo.
Mae disgwyl mai de-orllewin Lloegr fydd yn dioddef fwyaf, ond mae’r swyddfa dywydd yn rhybuddio am beryglon llifogydd a difrod mewn sawl rhan o’r Deyrnas Unedig.
Dywedodd proffwydi’r tywydd mai heddiw fydd y diwrnod olaf o dywydd gweddol heulog a rhewllyd, cyn cychwyn ar gyfer cyfnewidiol a stormus.
Bydd y tywydd yn arwain at drafferthion i’r rheini sy’n bwriadu teithio dros y dyddiau nesaf, meddai Dan Williams o Swyddfa’r Met.
“O nos Sul ymlaen fe fydd gwasgedd isel yn dod o gyfeiriad y de gan arwain at dywydd gwlyb a gwyntog,” meddai.
“Rydyn ni’n disgwyl i’r gwynt gyrraedd 60 milltir yr awr ac fe allai glaw trwm arwain at lifogydd.
“Fe fydd y tywydd yn parhau yn ansefydlog am y rhan fwyaf o’r wythnos.”