Andrew Mitchell
Mae gyrfa wleidyddol Prif Chwip Llywodraeth San Steffan, Andrew Mitchell, yn parhau yn y fantol ar ôl iddo gael ei gyhuddo o regi ar heddweision.
Dywedodd llefarydd ar ran yr heddlu bod yr Aelod Seneddol yn agos at gael ei arestio ar ôl iddo alw heddweision yn “plebs” a dweud y dylen nhw “wybod eu f****** lle”.
Roedd wedi ei atal rhag seiclo allan o brif giatiau Rhif 10 Stryd Downing gan yr heddlu.
Mae Andrew Mitchell wedi ymddiheuro am beidio trin yr heddweision â pharch ond mae’n gwadu rhegi arnyn nhw.
Mae’r Blaid Lafur wedi galw arno i golli ei swydd, gan ddweud ei fod naill ai yn dweud celwydd ei hun neu yn cyhuddo’r heddlu o ddweud celwydd.
Dywedodd John Tully, Prif Weithredwr Ffederasiwn Heddlu’r Met, bod yna gyfnod ysgrifenedig o beth ddigwyddodd yn llawlyfr y swyddogion.
“Ar ôl derbyn rhybudd geiriol gan y swyddogion fe roddodd y gorau iddi,” meddai. “Pe bai wedi parhau fe fyddai wedi ei arestio.
“Fe ddylai ymddiswyddo. Mae’n annerbyniol defnyddio iaith ymosodol o’r fath wrth siarad ag unrhyw un, heb son am heddwas.”