Does dim tystiolaeth wedi dod i’r amlwg bod Cristnoges ifanc yn euog o ddifrodi copi o’r Koran, yn ôl adroddiad gan yr heddlu ym Mhacistan.
Dywedodd yr heddlu eu bod nhw’n drwgdybio bod rhywun wedi stwffio tudalennau o’r llyfr sanctaidd i mewn i fag siopa yr oedd y ferch yn ei gario. Maen nhw’n beio aelod o fosg cyfagos.
Mae’r achos wedi denu sylw mawr yn y wlad o ganlyniad i oed y ferch a’i gallu meddyliol.
Dywedodd yr heddlu eu bod nhw wedi arestio’r imam a oedd wedi gwneud y cyhuddiadau yn erbyn y ferch.
Cafodd hithau ei rhyddhau ar fechnïaeth.
Mae’r amddiffyniad wedi dweud y dylid rhoi’r gorau i erlyn y ferch, a bod yr holl dystiolaeth yn dangos iddi gael bai ar gam.