Mae cannoedd o brotestwyr Japaneaidd wedi gorymdeithio drwy ganol Tokyo heddiw er mwyn ymgyrchu yn erbyn honiad China maen nhw sydd biau ynysoedd ym Môr Dwyrain China.

Trefnwyr y brotest gan y grŵp cenedlaetholgar Ganbare Nippon (Dos amdani, Japan), yn dilyn nifer o brotestiadau i’r gwrthwyneb yn China dros yr wythnosau diwethaf.

Er bod cannoedd o ymgyrchwyr wedi gorymdeithio drwy ganol y brifddinas, dim ond pump ar y tro oedd yn cael ymweld â’r pafin gyferbyn â llysgenhadaeth China.

Roedd dwsinau o heddweision yno i gadw trefn ar bethau, gan symud grwpiau oddi wrth y llysgenhadaeth ar ôl ychydig o funudau yn unig.