Nick Clegg
Rhaid gofyn i’r cyfoethog dalu rhagor o drethi cyn gofyn i bobol sydd ar fudd-daliadau dderbyn rhagor o doriadau, meddai Nick Clegg yng nghynhadledd ei blaid yn Brighton heddiw.

Dywedodd na fyddai yn cytuno i unrhyw doriadau pellach gan y llywodraeth yn San Steffan os nad oedd y Ceidwadwyr yn cytuno i godi trethi ar y cyfoethog.

Mynnodd hefyd ei fod yn bwriadu parhau i arwain ei blaid y tu hwnt i’r etholiad cyffredinol yn 2015, er bod y polau piniwn yn awgrymu ei fod yn amhoblogaidd iawn ymysg pleidleiswyr.

“Mae’r Ceidwadwyr yn awgrymu eu bod nhw eisiau i’r holl arbedion ychwanegol ddod o fudd-daliadau,” meddai. “Mae hynny’n hollol annerbyniol i mi.

“Dydyn nhw ddim yn mynd i gymryd £10 biliwn allan o fudd-daliadau. Fe fyddai yn amhosib peidio gwneud toriadau i fudd-daliadau am ei fod yn cynnwys traean o’r pwrs cyhoeddus.

“Ond dydw i ddim yn fodlon o gwbl â’r awgrym y dylid gadael i fudd-daliadau gymryd y straen i gyd.”

Cân i Clegg

Fe fydd “pobol resymol” hefyd yn gwerthfawrogi ei benderfyniad i ymddiheuro am dorri addewid ei blaid ar ffioedd dysgu, meddai.

Mae’r ymddiheuriad hwnnw wedi bod yn destun jocs di-ri ar y we, gan gynnwys cael ei droi yn gân sy’n anelu at gipio rhif un yn siartiau’r Nadolig.