Hosni Mubarak
Dyw Hosni Mubarak ddim mewn cyflwr difrifol o gwbl, yn ôl prif feddyg fforensig yr Aifft.

Mae adroddiad Ihsan Kameel Gorgy yn mynd yn groes i’r sïon bod iechyd cyn-Arlywydd yr Aifft yn dirywio yn gyflym.

Roedd adroddiadau bod Hosni Mubarak wedi dioddef o strôc ac mewn cyflwr difrifol.

Cafodd y cyn-wleidydd 84 oed ei ddedfrydu i oes yn y carchar ym mis Mehefin am iddo fethu ag atal lladd cannoedd o bobol yn ystod y protestio mawr y llynedd.

Aethpwyd ag ef i ysbyty milwrol ar ôl tair wythnos yn y carchar, wedi adroddiadau bod ei galon wedi stopio.

Dywedwyd ar y pryd ei fod wedi dioddef strôc.

Ond mynnodd Ihsan Kameel Gorgy nad oedd dim byd llawer yn bod ar Hosni Mubarak.

Y cyfan oedd ei angen arno oedd meddyginiaeth er mwyn cadw ei system cylchrediad gwaed yn iach, meddai.