Louis Susman
Mae llysgennad yr Unol Daleithiau yn Llundain wedi condemnio gwledydd Prydain am fynd yn rhy agos at y Cyrnol Gaddafi yn Libya.
Wrth i’r unben droi ar brotestwyr yn y wlad, fe ddywedodd Louis Susman mai camgymeriad oedd ei dderbyn yn ôl i’r gorlan ryngwladol ar ôl blynyddoedd o fod wedi’i esgymuno gan wledydd y gorllewin.
Fe alwodd am newid hefyd yn y ffordd y mae Libya’n cael ei thrin gan weddill y byd.
‘Mwy o statws’
Mae’r sylwadau’n cael eu gweld yn gyfeiriad amlwg at weithredoedd y Llywodraeth yn Llundain yn dod i gytundeb gyda’r Cyrnol Gaddafi tros arfau dinistriol ac yn cael cytundebau ynglŷn ag olew a masnach.
Fe ddaeth rhai o’r ystyriaethau hynny i’r amlwg yn yr helynt tros ryddhau bomiwr Lockerbie, Abelbaset al-Megrahi, a’i anfon yn ôl i Libya.
“Fe fyddwn i’n awgrymu mai camgymeriad yw delio gydag ef, rhoi mwy o statws iddo a mwy o allu ar y llwyfan rhyngwladol i ymddangos yn ddinesydd da,” meddai’r llysgennad.
“Fe fyddwn i’n gobeithio bod yr holl syniad o sut y mae pobol yn delio gyda Gaddafi yn cael ei ailystyried.”
‘Rhy bell’
Mae arbenigwyr rhyngwladol yn dweud bod yr Unol Daleithiau hefyd wedi closio at Gaddafi tros y blynyddoedd.
Ond mae rhai wedi awgrymu hefyd bod y gwrthdaro yn Libya wedi mynd yn rhy bell erbyn hyn i’r Cyrnol ddal ei afael ar rym.