Alcohol
Fe allai hyd at 250,000 o bobol yng ngwledydd Prydain golli eu bywydau’n ddiangen yn ystod yr 20 mlynedd nesa’ os nad yw’r Llywodraeth yn rhoi’r gorau i gow-towio i’r diwydiant yfed.

Dyna neges tri o’r prif arbenigwyr meddygol yn y maes wrth alw am y math o gamau y mae Llywodraeth y Cynulliad eisiau eu gweithredu yng Nghymru.

Mae’r Llywodraeth yn Llundain yn “rhy agos” at y diwydiant diodydd, medden nhw mewn erthygl yng nghylchgrawn meddygol y Lancet.

Miloedd yng Nghymru

Mae eu hamcangyfri’ nhw o rhwng 160,000 a 250,000 o farwolaethau ychwanegol yn golygu y byddai rhwng 8,000 a 12,500 o bobol yn marw yng Nghymru.

Mae’r tri – yr Athro Ian Gilmore, cyn-lywydd Coleg Brenhinol y Ffisegwyr, ynghyd â Nick Sheron o Brifysgol Southampton a Chris Hawkey o Ysbyty Prifysgol Nottingham – yn dweud bod ymdrechion Llywodraeth Prydain i daclo gor-yfed yn ddiwerth.

Mae’r rheiny’n cynnwys gwahardd gwerthu alcohol am lai na phris y dreth arno a chynyddu’r dreth ar gwrw cryf.

Sylwadau’r tri

“Mae’r polisïau hyn yn awgrymu bod y Llywodraeth yn aros yn rhy agos at y diwydiant ac nad oes ganddi awydd clir i leihau effaith alcohol sy’n rhad, yn hawdd ei gael  ac yn cael ei farchnata’n drwm,” meddai’r tri.

Yn ôl yr Athro Gilmore, mae angen i’r Llywodraeth drin alcohol yr un mor ddifrifol ag y mae’n trin baco ac fe gefnogodd y math o bolisi sy’n cael ei awgrymu gan Lywodraeth y Cynulliad – i osod isafswm pris ar ddiod.

“R’yn ni eisoes yn gwybod o dystiolaeth ryngwladol mai’r prif ffyrdd i ostwng y defnydd o alcohol yw i godi’r pris a’i wneud yn anoddach ei gael, eto mae’r Llywodraeth yn parhau i drafod camau ymylol gan anwybyddu’r dystiolaeth hon.”