Fiona Bone a Nicola Hughes, dde
Mae’r heddlu ym Manceinion yn dal i holi dau ddyn mewn cysylltiad â llofruddiaeth dwy blismones mewn ymosodiad gyda gwn a grenâd.
Cafodd Dale Cregan, 29, ei arestio yn fuan ar ôl i Nicola Hughes a Fiona Bone gael eu lladd ac mae dyn 28 oed hefyd yn cael ei gadw yn ardal Hattersley ar amheuaeth o gynllwynio i lofruddio.
Yn y cyfamser mae Prif Gwnstabl Heddlu Manceinion wedi rhybuddio bod plismyn yn dal i fod dan fygythiad heddiw. Dywedodd Syr Peter Fahy na allai fod yn sicr bod y dyfeisiadau ffrwydrol i gyd wedi cael eu symud o’r safle lle cafodd Nicola Hughes a Fiona Bone eu lladd ddydd Mawrth.
Mae hefyd wedi rhybuddio am fygythiad oherwydd anghydfod rhwng gangiau yn yr ardal ac mae’r heddlu wedi rhybuddio nifer o unigolion am y bygythiad o gael eu llofruddio neu eu hanafu’n ddifrifol.