Cafodd gweithwyr mewn ffatri greision yng Nghrymlyn yn Sir Caerffili eu symud dros nos, wrth i dân ledu drwy’r adeilad.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw toc wedi 3am y bore yma i ffatri Real Crisps ar ystâd ddiwydiannol Penyfan. Mae’n debyg bod 75% o’r adeilad wedi ei ddifrodi yn y tân.

Mae wyth injan dân a mwy na 50 o ddiffoddwyr tân ar y safle.

Mae trigolion lleol wedi cael rhybudd i aros yn eu cartrefi a chadw eu drysau a’u ffenestri ar gau.

Mae disgwyl i’r gwasanaeth tân dreulio ychydig oriau’n diffodd y tân.

Yn ôl adroddiadau mae’r  tân wedi lledu oherwydd bod yr adeilad yn cynnwys olew a braster sy’n cael eu defnyddio er mwyn gwneud y creision.

Roedd yna bryderon y gallai’r tân fod wedi lledu i adeiladau eraill, ond mae’r gwasanaeth tân wedi llwyddo i’w gadw i un adeilad.

Mae swyddogion iechyd amgylcheddol hefyd ar y safle, a chafodd y gwasanaeth ambiwlans eu galw ond ni chafodd unrhyw un eu hanafu.

Mae’r ymchwiliad i’r hyn a achosodd y tân wedi dechrau.

Sirhowy Valley Foods sy’n rheoli’r ffatri, a Tayto Group yw’r perchennog.