Mae’r Comisiynydd Pobl Hŷn, Sarah Rochira wedi dweud bod angen i wasanaethau ar gyfer pobl oedrannus adlewyrchu anghenion a lleisiau pobl hŷn ym mhob rhan o Gymru.

Yn ystod sioe deithiol ymgysylltu, mae’r Comisiynydd wedi bod yn ymweld â phobl oedrannus i gael clywed eu barn am y gofal sydd ei hangen arnynt.

Mae nifer wedi dweud nad ydyn nhw’n derbyn y gofal y bydden nhw’n ei ddisgwyl, nac unrhyw reolaeth drosto.

Dywedodd Sarah Rochira: “Er bod gennym lawer o staff gwasanaethau cyhoeddus ardderchog yng Nghymru, mae gormod o bobl hŷn yn cael eu methu gan y gwasanaethau a’r systemau a ddylai fod ar gael i’w helpu, yn enwedig yn ystod cyfnodau bregus a mwyaf anghenus eu bywydau.

Argymhellion

Mae’r Comisiynydd yn gyfrifol am bedwar prif faes, sef hyrwyddo hawliau a buddiannau pobl oedrannus, mynd i’r afael â gwahaniaethu ar sail oedran, gwella safonau gofal i bobl hŷn ac adolygu’r gyfraith sy’n effeithio ar fuddiannau pobl hŷn yng Nghymru.

Yn dilyn cyhoeddi’r adolygiad o ysbytai yng Nghymru, ‘Gofal gydag Urddas?’, bydd y Comisiynydd yn sicrhau bod argymhellion yr adroddiad yn cael eu gweithredu.

Bydd hi hefyd yn gyfrifol am sicrhau bod gwasanaeth eiriolaeth ar gael i bobl oedrannus ar ôl iddyn nhw symud i mewn i gartrefi gofal neu ar ôl gadael.

Rhan o waith y Comisiynydd fydd sicrhau bod trafnidiaeth gyhoeddus, toiledau cyhoeddus a gwasanaethau eraill ar gael i bobl oedrannus yn y gymuned.

‘Annerbyniol’

Ychwanegodd Sarah Rochira: “Yn rhy aml o lawer, mae’n rhaid cael argyfwng cyn byddant yn cael cymorth a gofal.

“Mae amseroedd aros am gefnogaeth hanfodol sy’n helpu pobl i fyw yn annibynnol ac yn ddiogel yn annerbyniol o hir mewn rhannau o Gymru.

“Ceir mwy a mwy o amrywiaeth yn lefelau’r gefnogaeth a’r gwasanaethau sy’n cael eu darparu, ac i lawer gormod o bobl hŷn, mae cael gafael ar y gefnogaeth mae ei hangen arnynt yn seiliedig ar loteri cod post.

“O ganlyniad, mae gormod o bobl hŷn yn fregus, yn colli eu hannibyniaeth ac yn mynd yn fwy ynysig ac unig.

Poblogaeth yn heneiddio

“Heddiw, rwy’n cyhoeddi rhaglen waith y Comisiynydd am y tro cyntaf, lle rwy’n nodi 50 o ddarnau penodol o waith y byddaf yn eu datblygu, a bydd llawer ohonynt yn effeithio’n uniongyrchol ar ddarparwyr gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.”

“Gwn fod llawer o waith eisoes yn mynd rhagddo i wella’r gefnogaeth a’r gwasanaethau sydd ar gael i bobl hŷn. Fel Comisiynydd, byddaf yn gofyn am dystiolaeth bod y gwaith hwn yn cael ei gyflawni ar gyfer pobl hŷn ledled Cymru ac yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i’w bywydau.

“Mae dros 710,000 o bobl hŷn yng Nghymru; mae’r lefelau uchaf o bobl hŷn yn y DU yn ôl cyfran yn byw mewn rhannau o Gymru. Mae ein poblogaeth yn heneiddio a bydd y newidiadau y byddwn yn eu gwneud nawr nid yn unig yn effeithio ar y genhedlaeth bresennol o bobl hŷn, ond hefyd ar genedlaethau i ddod.”